Cegin Eddie: Sbageti A Pheli Cig
English version
Mae hwn i'r rhai sydd yn hoff o fwydydd Eidaleg ac yn bwyta cig (fel rhan o bryd i deulu o bedwar, neu fel prif bryd i ddau o bobl).
Bydd angen:
- 10-20 Peli cig (porc neu gig eidion) ffres o'r cigydd
- 2 tun tomato wedi'u torri
- 1 ciwb stoc llysiau
- 1 llwy de fawr o Bovril (neu rin cig eidion fel arall)
- Ychydig o olew olewydd hynod-goeth neu fenyn
- 1 nionyn canolig (wedi'i ddeisio)
- 1 cennin bach (wedi'i ddeisio)
- 1 cwpan o bys wedi rhewi
- Digon o sbageti i fwydo dy deulu (tua maint darn dwy geiniog i bob person)
- Perlysiau cymysg sych (neu byddai basil ffres yn berffaith)
Dull:
- Mewn sosban fawr arllwys 1.5 litr o ddŵr berwedig ac ychydig o olew a phinsiad o halen, yna ychwanega'r sbageti a'i roi ar wres uchel
- Mewn sosban ddofn ychwanega ychydig o olew a brownio'r peli cig
- Unwaith mae'r peli cig wedi brownio trosglwydda nhw i ddysgl popty a'i roi i mewn i bopty cymedrol er mwyn iddo orffen coginio (marc nwy 5 am tua 20 munud)
- Yn y sosban lle oedd y peli cig, rho ychydig mwy o olew a'i roi ar wres uchel, yna ychwanega'r nionyn a'r cennin – parha i'w droi nes bydd yn feddal
- Mewn jwg, ychwanega'r ciwb stoc a'r Bovril, yna arllwys 700ml o ddŵr berwedig dros y cwbl a'i gymysgu yn dda nes bydd popeth wedi toddi.
- Yn araf, arllwys y cymysgedd stoc dros y nionod a'r cennin, gan gymysgu yn barhaol (gan ddod a'r cymysgedd i fudferwi wrth i'r stoc lleihau a thewychu ychydig)
- Unwaith bydd y stoc i gyd wedi mynd i'r sosban, cymysga yn dda a'i adael i fudferwi am bum munud
- Ychwanega'r tomatos tun a'i gymysgu yn dda
- Nawr ychwanega'r pys gan gymysgu yn dda a'i ddod yn ôl i fudferwi am bum munud
- Ychwanega ychydig o bupur du a halen môr i flas
- Ar y pwynt yma bydd angen ychwanegu'r perlysiau cymysg (neu fasil)
- Mudferwa am ddeg munud arall nes i'r saws dewychu (efallai bydd yn hirach na hyn felly bydda'n amyneddgar)
- Unwaith bydd y peli cig wedi gorffen coginio yn y popty, tynna nhw allan a'u rhoi yn y saws i gymryd blas y saws tomato
- Unwaith bydd y sbageti wedi coginio gall ei roi ar blât a'i fwynhau
Awgrymiadau cyflwyno:
Gosod twmpath o sbageti yng nghanol y plât ac yna rhoi pedwar neu bump o beli cig ar ei ben a rhoi cwpl llwyed o saws drosto yna gratio ychydig o gaws parmesan ffres drosto. Ychwanega cwpl o ddail basil ar y top a sleisen drwchus o fara garlleg ar yr ochr.
Awgrymiadau'r Cogydd:
- Gall wneud y saws ar y diwrnod blaenorol os wyt ti'n fyr o amser, cadwa ef yn yr oergell a pan fyddi di eisiau ei gynhesu, rho ef mewn sosban a'i ferwi, gan ychwanegu'r peli cig wedi coginio hanner ffordd trwy ei gynhesu i adael iddynt amsugno blas y saws.
- Os wyt ti eisiau pasta gyda blas Eidaleg mwy dilys defnyddia pasta wy ffres a'i goginio yn yr un ffordd ond cer am un bag o basta ar gyfer teulu o bedwar.
- Os wyt ti eisiau gwneud bara garlleg dy hun defnyddia garlleg ffres wedi malu'n fan a menyn wedi'i gymysgu efo'i gilydd, yna tostio un ochr o fara a'i droi drosodd a rho'r cymysgedd menyn garlleg drosto a'i roi yn ôl yn y gril.
Clicia yma am fwy o ryseitiau Eddie.
Newyddion – Bwyd a Diod
Sefydliadau – Food For Thought
Gwybodaeth – Bwyd
Gwybodaeth – Maetheg







