Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ystyr Bywyd

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 12/12/2011 am 15:32
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Addysg, Amgylchedd, Pobl, Materion Cyfoes

  • babi

English version

Ystyr bywyd,
I fyw heb gynnen,
I oroesi pob brwydr,
I reoli pob anrhefn.

Ystyr bywyd,
Y bywyd rydym yn ei fyw,
Y cariad rydym yn teimlo
Y casineb rydym yn ofni

Ystyr bywyd,
Y rhif 42,
Neu fel hyn dywedant,
Cariad pawb ydy beth ddywedaf i

Ystyr bywyd,
Bodolaeth ar y Ddaear,
Dinistriad graddol y Ddaear,
Rhwygo allan adnoddau'r Ddaear.

Ystyr bywyd,
Beth yw ef go iawn?
Does neb yn gwybod,
Os byddem yn gwybod,
Ni fyddwn yma.

Mae ystyr bywyd yn un o'r posau hynny sydd wedi poeni dyn am ganrifoedd. Mewn cyfanfyd ble mae miliynau a biliynau o blanedau dim ond ar un ni mae bywyd. Pam fod hyn? Pam bod ni mor arbennig fel y gallwn gael bywyd a chael ffynnu?

Yn bersonol dwi ddim yn meddwl gormod am y cwestiwn o ystyr bywyd. Dwi'n falch fod gen i fywyd i fyw, a bod i yn gallu addasu i oroesi, ond fi ydy hynny. Dwi'n gwybod fod yna rhai pobl allan yna sydd yn credu mewn creadaeth ( y syniad ein bod wedi'n creu gan uwch grym) a bod rhai yn credu mewn esblygiadaeth (y ffordd Darwin, fod pawb yn dod o epaod).

Ond yna mae yna rai fel fi, sydd yn falch o fod yn fyw a ddim yn cwestiynu’r ffaith o pam. Ond dwi'n meddwl fod hyn yn ddigon am ystyr bywyd nawr.

Nadolig Llawen bawb.

Tudalennau Crefydd

DELWEDD: f-l-e-x

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.