Y Llwynog A'r Dyfrgi
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Adolygiad Gorau yng Ngwobrau CLIC 2011.
Mae hwn yn stori fer wedi'i ysgrifennu gennyf i.
Pennod 1
Marwolaeth
Fe gerddodd i lawr yn ofalus tuag at ymyl y dŵr, edrychodd o gwmpas, fe welodd bob math o bethau yn digwydd o'i gwmpas. Ar y dde fe welodd gwpl ifanc yn cerdded law yn llaw ar hyd y llwybr cyhoeddus, yn debygol ar eu ffordd yn ôl o bryd o fwyd neu'r theatr leol. I'r chwith gwelai cwpl o lygod mawr yn rhedeg o gwmpas gyda darnau o sbwriel yn eu ceg. Ar y glan dros y ffordd iddo gwelodd ei ffrind pennaf Othello y dyfrgi, roedd yn dod allan o'r dŵr ac yn mynd yn ôl am ei gartref i mewn yng nghlai'r glan. Pan synhwyrodd nad oedd neb yn gwylio, gostyngodd ei ben i'r dŵr a dechrau yfed. Roedd y dŵr glan, oer yn helpu clirio ei feddyliau.
Wedi cyfnod byr fe glywodd sgrech uchel yn dod o'i ffau, yn sydyn, ond yn ofalus, rhedodd yn ôl i weld beth oedd o'i le. Pam gyrhaeddodd ni allai gredu'r peth, roedd gwaed ymhobman. Roedd breichiau a choesau ei gymar wedi gwasgaru ar hyd llawr y ffau, roedd ei dri chenau mewn darnau. Edrychodd o gwmpas y ffau yn chwilio am ei frawd, oedd wedi dod i aros y noson, ond ni allai ei weld yn unlle. Rhoddodd ei ben allan o'r ffau i aer y nos. Aroglodd o'i gwmpas i drio deall beth oedd wedi digwydd ond roedd hyn yn ddiwerth. Yr unig beth allai arogli oedd cyrff difywyd ei genau a'i gymer oedd yn gorwedd mewn darnau.
Chwiliodd y goedwig gyfagos a pharciau yn chwilio am ei frawd, ond ni ddaeth o hyd iddo. Yna daeth yn ôl i lan y dŵr lle'r oedd dim ond awr ynghynt. Cwympodd ar y lan. Nofiodd ei ffrind y dyfrgi tuag ar draws yr afon tuag ato. "Felix beth sydd yn bod? Beth sydd wedi digwydd?" meddai, wrth weld ei ffrind yn waed o'i ben i'w sawdl. Atebodd y llwynog, "fy nheulu Othello, mae fy nheulu wedi mynd" meddai wrth i ddeigryn ddiferu lawr ei foch. "Maen nhw i gyd wedi marw… wedi'u llofruddio." Roedd ei lygaid yn llosgi. Roedd hi wedi bod yn flynyddoedd ers iddo wylo. "Othello, plîs helpa," meddai wrth iddo geisio eistedd.
Edrychodd Othello arno ac yna ei dynnu yn agosach at lan y dŵr. Helpodd Felix i mewn i'r dŵr er mwyn iddo olchi gwaed ei deulu oddi arno. Edrych Felix i mewn i fyw llygaid Othello. "Diolch Othello, ti'n wir ffrind," meddai wrth iddo orffen golchi'r gwaed o'i got, a chael allan ar y lan. Edrychodd yn ôl at Othello, "mae'n rhaid i mi adael ffrind. Mae'n rhaid i mi ddod o hyd i rywle diogel i gychwyn teulu newydd." Edrychodd Othello yn ôl, "gad i mi ddod gyda thi," meddai, eisiau antur. Gwenodd Felix. "Bydda'r cwmni yn braf," meddai wrth iddo sefyll ar ei bedwar ac edrych o gwmpas at ble roedd ei ffau. "Rydym yn gadael am hanner nos," meddai, yn edrych i fyny at y lleuad oedd bron reit dros eu pennau. Gwenodd Othello ac edrychodd i fyny. "Fe af i ddweud wrth fy nheulu," meddai wrth iddo droi tuag at yn ôl a dros y dŵr.
Pennod 2
Cychwyn
Fel roedd y lleuad reit uwchben yr afon cychwynnodd Othello a Felix am y gogledd ar hyd glan yr afon. Wrth iddynt ddod yn agos at ganol y ddinas aethant i mewn i'r strydoedd, yn cadw at strydoedd tywyll ac yn y cysgod, yn ofalus i beidio cael ei gweld. Wedi'r cwbl, nid yw llwynog yng nghanol y ddinas yn olygfa arferol oherwydd bod y ddinas yma bron wedi cael gwared â bob llwynog o'r ddinas honno a'r ardal gyfagos. Roedd Felix a'i deulu yn un o dri theulu o lwynogod oedd yn byw o fewn radiws pum milltir o ganol y ddinas. Roedd y teuluoedd eraill yn byw tuag at Orllewin y ddinas.
Roedd beth roedd Felix ac Othello yn ei wneud yn beryglus, yn beryglus iawn. Nid oedd llwynog byth i'w weld gyda dyfrgi am un peth, a hefyd roeddent yn cerdded i gynefin newydd, yn teithio dros dir y teuluoedd llwynog eraill a trwy dir y cŵn dof a'r cŵn crwydr. Bydda nhw wrth ei boddau yn cael gafael ar lwynog a dyfrgi i swper, felly roedd rhaid iddynt fod yn ofalus, ac fe roeddent, yn teithio am gyfnodau byr, ac yn amlwg yn cadw at y cysgod fel nad oeddent yn cael eu gweld. Roedd Felix, cyn iddynt adael glan yr afon, wedi rholio mewn colomen marw i guddio ei arogl llwynog. Roedd Othello wedi gwneud yr un peth.
Ar ôl dwy awr roedd y ddau wedi cyrraedd cyrion rhan ogleddol y ddinas, ond nid oeddent yn glir eto, gan fod traffordd brysur i groesi, ac yna rheilffordd, cyn iddynt gyrraedd y coed oedd yn berchen i'r ffarm. Y ffarm yma oedd lle gafwyd Felix ei eni a'i fagu, nes iddynt orfod gadael am y ddinas i gysgodi i ffwrdd oddi wrth yr herwhelwyr a laddodd ei dad. Roedd Felix yn benderfynol o basio'r ffarm ac i mewn i dir y goedwig ond cyn i Othello ag ef fedru gwneud hynny roedd rhaid croesi'r draffordd a'r rheilffordd. Daeth y ddau at ymyl y ffordd, yna syllu ar ei gilydd fel petaent yn dweud "be ddiawl ydym ni'n ei wneud?" Nodiodd y ddau ac edrych ar y ffordd. Pan welsant ran glir rhedodd y ddau mor sydyn ag y gallent i'r canol. Pan gyrhaeddant yno eisteddodd y ddau yn edrych ar ei gilydd ac ochneidio. "Argian, mae hynna yn wyllt," meddai Othello wrth Felix, oedd yn nodio yn unig ac yn edrych ar y rhan nesaf. "Reit ta ar dri," meddai, gan gadw ei lygaid ar y ffordd.
"Un… dau… tri," meddai Felix wrth iddo yntau ac Othello redeg unwaith eto nerth eu traed. Pan gyrhaeddant ochr y ffordd edrychodd Felix i fyny ar ffens. "Damia fo," meddai wrth iddo sylwi byddai hyn yn anoddach na feddyliai. "Othello, fedri di ddringo?" meddai gan edrych ar ei ffrind. "Na Felix, ond dwi'n meddwl fod twll yn fan yna," meddai gan edrych tuag at ddarn tywyll yng nghoed y ffens. Nodiodd Felix a cherdded tuag ato. "Oes Othello, gallwn ni gael drwodd," meddai wrth iddo gamu trwy'r twll ac i mewn i ddarn o ddaear rhwng y ffordd a'r rheilffordd. Dilynodd Othello.
Edrychodd Othello tuag at y bariau metel oer od ar y llawr. Rhoddodd ei bawen ar un a'i deimlo'n crynu. Tynnodd Felix ei ffrind wrth ei gynffon a'i dynnu'n ôl. "Trên ydy o," meddai wrth iddo'i dynnu yn union fel roedd bocs metel enfawr yn rholio pasio nhw, golau yn fflachio a brêcs yn sgrechian, sbarciau yn hedfan wrth iddo wichian i arosfa yn syth wedi'u pasio nhw. Wrth iddo stopio, rhedodd Othello a Felix ar draws ac o dan y ffens ar yr ochr arall i mewn i gae ŷd. Edrychodd Felix tuag at Othello. "Dilyna fy llwybr, iawn?" meddai. Nodiodd Othello, "iawn Felix," a dilynodd pobman aeth Felix.
Hanner ffordd o gwmpas y cae gwelodd Felix y ffau roedd yn byw ynddi pan yn genau. Roedd arogl marwolaeth yno wrth i Othello ac yntau frysio pasio. Fel cyrhaeddant fynediad y ffarm edrychodd Felix i fyny. "Mae'n bump y bore Othello," meddai wrth iddo edrych ar Othello.
"Ydy Felix, a dwi wedi blino, ble gysgwn ni?" atebodd Othello wrth iddo ddylyfu gen.
Gwenodd Felix. "Mae ogof hen o'n blaen ger glan yr afon," meddai wrth iddo arwain Othello i lawr ffordd wledig droellog tuag at groesfan afon hen. Edrychodd y ddau ar ei gilydd yna chroesi'r dŵr ac anelu am yr ogof. Dywedodd Felix wrth Othello i ddisgwyl tu allan tra byddai ef yn mynd i weld ei bod yn ddiogel. Eisteddodd Othello yn amyneddgar ger y fynedfa wrth i Felix padio i mewn. Edrychodd o'i gwmpas ac arogli'r aer oer diflas. Addasodd ei llygaid yn sydyn i'r golau pŵl o fewn yr ogof. Unwaith wyddai fod yr ogof yn wag roedd yn hapus a galwodd ar Othello i ddod i mewn yn sydyn ato. Aroglodd o'i gwmpas ac yna chyrlio i fyny yn erbyn y wal, wrth i Felix orwedd i lawr yn wynebu'r fynedfa bron yn gwarchod ei ffrind.
Pennod 3
Brecwast
Wrth i Felix ddeffro edrychodd tuag at ble roedd Othello i fod. Pan sylweddolodd nad oedd yno roedd yn ofni'r gwaethaf nes iddo glywed sblasio yn yr afon tu allan. Aeth yn ofalus allan o'r ogof ac edrych tuag at ble roedd y sblasio. Othello oedd yno gyda brithyll yn ei geg, yn ceisio dod ag ef i'r lan. Rhoddodd Felix ei bawen yn y dŵr i helpu ei ffrind i afael ynddo wrth iddo'i dynnu allan. Yna gosododd y pysgodyn ar y llawr a rhoddodd ei bawen arno i'w gadw mewn un lle. "Ffansi brecwast?" meddai gan edrych tuag at Felix. Nodiodd Felix. "Ia, dwi'n llwgu," meddai wrth ostwng ei gorff a gorwedd i lawr yn cymryd y brithyll yn ei geg, yn brathu'r pen yn syth i ffwrdd, gan ladd y brithyll yn syth, tra aeth Othello yn ôl i'r dŵr i ddal pysgodyn arall.
Difodd Felix y brithyll wrth i Othello ddod allan o'r dŵr gyda physgodyn ei hun. Eisteddodd i lawr i'w fwyta wrth i Felix orffen ac edrychodd o gwmpas i fyny'r afon. "Ugain milltir arall Othello," meddai wrth y dyfrgi.
Edrychodd Othello i fyny o'i bysgodyn a dweud, "iawn, ond fydd hi'n iawn i mi nofio am ychydig o'r daith? Dwi'n teithio'n gyflymach yn y dŵr," meddai gan edrych tuag at y dŵr oer clir. Nodiodd Felix gan wenu, "cei siŵr Othello," meddai, gan edrych i fyny glan yr afon a gweld llwybr clir yn dilyn yr afon am filltiroedd. Dychwelodd Felix i'r ogof a gorwedd i lawr ac ymlacio tra roedd ei stumog yn treulio'r bwyd roedd wedi'i fwyta.
Am bump yn y prynhawn daeth Othello i'r ogof i ddeffro Felix. Gwenodd, "Felix, amser mynd" meddai wrth iddo'i daro dros y pen gyda'i bawen. "Deffra". Saethodd Felix i fyny, "ia Othello, beth sy'n bod?" meddai gan edrych allan o'r ogof a gweld fod yr awyr yn oren a'r aer yn llonydd. "Mae'n amser mynd," meddai Othello eto. "Iawn dwi'n dod," atebodd wrth i'r dyfrgi fynd am y dŵr. Aeth Felix allan ac ar y llwybr tra cychwynnodd y dyfrgi nofio yn erbyn y llif yn rhwydd. Cerddodd Felix gan gadw'r un cyflymdra, ond hefyd yn cadw ychydig o fewn y gwrychoedd oedd ar hyd y llwybr, yn cadw allan o'r golwg. Wrth i bobl ddod i fyny'r llwybr byddai'n dartio i mewn i'r isdyfiant o dan y gwrych a chadw'n llonydd yn gobeithio bob tro na fyddai'n cael ei weld. Wedi iddynt basio bydda’n dod yn ôl allan a pharhau ar hyd y llwybr.
Pennod 4
Darganfod Diogelwch
Milltir ar ôl milltir nofiodd Othello a cerddodd Felix i fyny'r afon. Bob pum munud byddai Felix ac Othello yn stopio i orffwys. Byddent yn edrych ar ei gilydd ond yn cadw'n ddistaw gan nad oeddent eisiau cael ei gweld na'i glywed. Ar ôl toriad bach byddent yn parhau ar y siwrne i ddiogelwch ymhellach i fyny'r afon ac i mewn i'r warchodfa natur. Fel cyrhaeddant yno gwelsant ffau o lwynogod o dan glwstwr o goed. Cadwodd ei ben yn isel a'i gynffon rhwng ei goesau wrth iddo ddod yn agosach i'r llwynogod. Daeth at ymyl y coed ac eistedd gyda'i ben i lawr wrth i'r alffa gerdded tuag ato. Aroglodd ef ac yna cyflwynodd ei hun. "Helo, Malcolm dwi a dyma fy ffau a fy nheulu. Pwy wyt ti a pam wyt ti yma?" Cadwodd Felix ei ben yn isel wrth iddo ateb. "Felix dwi, mab Mathew o Ffau'r Fferm. Dwi wedi dod o'r ddinas ble mae fy nheulu wedi'u lladd. Dwi'n dod yma am ddiogelwch," meddai wrth i ddeigryn rholio lawr ei foch. Edrychodd Malcolm arno. "Mae croeso i ti aros cyn hired ag y hoffet, ond dwi'n dy rybuddio di, fe fyddaf yn gwylio," meddai wrth i Felix godi ei ben ychydig. "Mae gen i ffrind gyda fi, dyfrgi, oes yna ddyfrgi arall fydd yn ei groesawu?" gofynodd Felix gan edrych tuag at y dŵr. Nodiodd Malcom gan alw un o'i feibion drosodd. Gwenodd arno a dweud wrtho arwain y dyfrgi tuag at y dyfrgwn eraill i fyny'r afon. Aeth Felix tuag at ymyl y dŵr gyda'r llwynog arall i gyflwyno nhw i'w gilydd. Gwenodd Othello a dweud, "arwain y ffordd", wrth iddo nofio ychydig yn y dŵr.
Arweiniodd y llwynog ef tuag at glwstwr bach o goed yn amgylchu'r afon lle'r oedd tuag wyth dyfrgi yn chwarae yn yr afon ac yn dal pysgod. Galwodd y llwynog am arweinydd y clan dyfrgwn. Esboniodd y sefyllfa a deallodd gan edrych ar Othello. "Wel fab, fe gei di ymuno efo ni yma. Rydym yn croesawu ti i'n cartref." Gwenodd Othello a gostwng ei ben mewn parch wrth iddo ddringo ar y glan ac ymlacio yng ngholau'r lleuad. Yn ôl yn y ffau llwynog roedd Felix yn edrych o gwmpas ei gartref newydd. Gwenodd wrth iddo dderbyn taith o gwmpas gan yr alffa. Dilynodd Felix yn ddistaw nes iddo deimlo'n gyffyrddus a diogel, yna edrychodd tuag at Malcom gan ofyn, "Malcolm, oes gennych chi fwyd yma o gwbl. Dwi wedi bod yn teithio drwy'r dydd a nos a ddim ond wedi cael pryd bach bore yma," gan ostwng ei ben gan ofni ei fod yn rhy ddigywilydd. Gwenodd Malcolm a chodi ei ben. "Wrth gwrs Felic. Fe gaf Susan i ddod a rhywbeth i ni," meddai, gan alw Susan ei gymar. Roedd hi'n llwynoges brydferth, ei chot yn goch dirgrynol ac mor slic ag olew. Roedd yr arogl ddaw ohoni yn ddigon i ddenu unrhyw wryw, ond roedd hi wedi cadw ei hun am ei alffa. Edrychodd Malcolm ar Susan, "bwyd plîs" meddai wrth iddi droi, ei chynffon yn sefyll yn uchel ac yn falch wrth iddi fynd tuag at y caeau i ddal cwningen. Wrth i Susan ddychwelyd roedd Felix yn sefyll yn barchus wrth iddi osod cwningen marw o flaen Malcolm. Gwthiodd ef tuag at Felix. "Bwyta Felix, yna ymlacia i gael dy gryfder yn ôl," meddai wrth iddo adael ystafell y ffau a dilyn ei gymar i mewn i'w hystafell nhw. Eisteddodd Felix a bwyta'r gwningen ac yna cyrlio i fyny a mynd i gysgu.
Y Diwedd
Diolch am ddarllen.
DELWEDD: Red Fox gan Eric Bégin







