Y Cwestiwn Anoddaf
Yn fy marn i'r cwestiwn anoddaf mewn bywyd i’r rhan fwyaf o bobl ifanc ydy: ydw i’n aros ta ydw i’n mynd (wrth sôn am adael gartref)?
Gad i ni edrych ar rain ar ben eu hunain:
Ydw i’n Aros?
Os ydym ni’n aros gartref, yn byw gyda’n rhieni / gofalwyr / gwarchodwyr, rydym mwy neu lai yn sicrhau canlyniad ariannol gwell, gan ein bod yn llai tebygol o orfod talu am filiau bwyd, gwres, trydan, dwr ayb.
Ond, rydym yn fwy tebygol o deimlo nad ydym wedi llwyddo cymaint ac yn fwy fel “hogyn neu hogan mami” (mewn ffordd o siarad).
Felly i dorri hyn i lawr ymhellach mae’n rhaid edrych ar y buddion o symud o gartref, sydd yn dod a ni at:
Ydw i’n Mynd?
Mae symud allan o dy ein rhieni / gofalwyr / gwarchodwyr yn benderfyniad mawr na ddylai ei chymryd yn ysgafn. Pan rydym yn symud allan rydym yn lleihau ein sefydlogrwydd ariannol, gan fod rhaid i ni gael gwaith yn gyntaf fydd yn rhoi digon o arian ar gyfer y canlynol:
- Rhent
- Biliau tanwydd (nwy, trydan, dwr)
- Treth Cyngor
- Bwyd
- Dillad
- Mwynderau sylfaenol (taclau ymolchi, dillad gwely, dodrefn)
- Trwydded teledu
- Dy drafnidiaeth i ac o addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
- Ac yna bydd rhaid cael digon ar ôl i fwynhau dy hun, byddai hynny yn mynd i’r dafarn leol neu ar wyliau am wythnos neu ddau. Bydd rhaid safio i wneud hynny
Felly rydym yn gallu gweld y buddiannau o aros gartref. Rwyt ti’n fwy sefydlog yn ariannol ac yn gallu darparu yn well ar gyfer dy hun.
Fy marn bersonol i (gall efallai fod yn wahanol i un chi) ydy, os wyt ti eisiau symud allan o gartref, dwi’n awgrymu dy fod di’n safio ychydig am dy flaendal ar y lle ti eisiau rhentu, fod gen ti swydd llawn amser sydd yn eithaf saff, ac yn olaf, paid â mynd am rywle nad alli di fforddio.
Awgrymiadau i unrhyw un sydd eisiau symud allan:
- Creu dadansoddiad ariannol o ba arian sydd yn mynd i ble (e.e. nwy - £5 yr wythnos)
- Edrycha o gwmpas i weld beth sydd ar gael yn dy amrediad pris di
- Cofrestra i’r rhestr cyngor yn fy nghanolfan gofal cwsmer cyngor lleol
Diolch i ti am ddarllen. Dwi’n gobeithio fod hwn wedi ei wneud ychydig yn fwy clir i’r rhai sydd yn dymuno symud allan.
Tudalennau Tai
Tudalennau Arian
Tudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant
DELWEDD: Martin_Heigan






