Y Canolfan Gwaith Yn Ymateb
Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 16 Rhagfyr 2010, fel Canolfan Gwaith: Cymorth Neu Rwystrad? Cysylltom â’r Adran Gwaith a Phensiynau am ymateb. Gwelir yr ymateb hwn yn yr adran sylwadau o dan yr erthygl.
Canolfannau Gwaith: ydy nhw’n helpu, neu’n rhwystro?
Wel, yn fy marn bersonol dwi’n teimlo eu bod yn rhwystro.
Dwi wedi profi hyn yn bersonol. Dros y 2-3 mis diwethaf dwi wedi ceisio cael cyfarfod gyda chynghorydd i drafod dychwelyd i’r gwaith wrth ofalu am rywun.
Nawr, dwi’n gwybod fod pob Canolfan Waith efo rhywbeth sydd yn cael ei adnabod fel Pencampwr Gofalwyr. Mae hyn yn fenter gan y llywodraeth i helpu gofalwyr ddychwelyd i’r gwaith, neu i roi cyngor.
Ond gyda fi, dwi wedi ceisio cael apwyntiad gyda’r Pencampwr Gofalwyr chwe gwaith yn fy Nghanolfan Gwaith lleol, ac wedi methu bob tro (neu dylwn i ddweud mai nhw sydd wedi methu?)
Dwi wedi gofyn am gyfarfod dros y ffôn, ar e-bost ac yn mynd i mewn i’r Ganolfan Gwaith a gofyn i'r person ar y ddesg flaen i basio neges iddynt, ond bob tro dwi wedi disgwyl tuag wythnos am ymateb, ond dim byd, nada, sip. Dim gair.
Ydy, mae’r Canolfannau Gwaith yn dda gan dy fod yn gallu darganfod pa swyddi sydd yn yr ardal, ac ydy os ti’n lwcus efallai bydd rhywun ar y ddesg flaen gall helpu ti gyda’r cyfrifiaduron sgrin cyffwrdd sydd ganddynt, ond fel arfer dim ond gard diogelwch sydd yno, yn dweud “Disgwylia yn fanna”.
I fi mae hyn yr un mor ddrwg a pheidio cael gwasanaeth.
Y broblem arall dwi’n weld ydy os wyt ti’n dioddef o ddyslecsia neu ddyspracsia yna mae’r ffurflenni maent yn gofyn i ti lenwi yn anodd iawn, mae’r un peth yn wir hefyd os wyt ti’n berson ifanc sydd yn un ai'n NEET (Ddim Mewn Addysg, Cyflogaeth nac Hyfforddiant) neu sydd wedi gorffen ysgol ddim wedi llwyddo’n dda.
Mae hyn yn atgas i mi, i wybod fod sefydliad sydd yn cael ei ariannu a’i gefnogi gan y Llywodraeth yn methu nifer o’u hamcanion, ac yn niffyg yn y cyfrifioldebau sydd wedi cael eu hymddiried ynddynt.
Sori os yw hyn i gyd yn ymddangos fel rhefru, ond mae hyn yn rhywbeth dwi’n meddwl dylai pobl ifanc i gyd gael sylwad arno, yn enwedig ar sut mae eu Canolfan Byd Gwaith lleol yn cefnogi nhw, ac os ydynt yn wynebu’r un problemau a finnau.
Diolch i bawb am ddarllen.
Tudalennau Cyflogaeth & Hyfforddiant CLIC







1 Comment – Postiwch sylw
CLICryan
Rhoddwyd sylw 16 mis yn ôl - 4th January 2011 - 19:40pm
Iawn, rydym wedi cael ymateb gan swyddog y wasg yn Yr Adran Gwaith a Phensiynau, ynghyd â chyswllt uniongyrchol i ti, Eddie, byddaf yn e-bostio i ti nawr…
Yr ymateb:
Mae’r Pencampwr Gofalwyr yn y Canolfan Byd Gwaith yn ymroddedig yng nghefnogi gofalwyr sydd yn meddwl dychwelyd i’r gwaith, ac yn hapus iawn i eistedd i lawr gyda phobl cymwys sydd eisiau eu cymorth.
Gall gwybodaeth ar gyngor a chefnogaeth i ofalwyr sy’n paratoi i weithio cael ei ddarganfod yma: http://www.direct.gov.uk/cy/CaringForSomeone/CarersAndEmployment/DG_182917CY
Mae cwsmeriaid gydag anawsterau dysgu sydd yn cael trafferthion wrth ddefnyddio’r gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith wneud cais am apwyntiad wyneb-i-wyneb gydag aelod o’u Tîm Ymholiad Budd-daliadau lleol, fydd yn gallu helpu gydag unrhyw faterion sydd ganddynt.
Gall drefnu’r apwyntiad yma drwy alw 0845 6043719, neu drwy’r rheolwr gwasanaeth cwsmer yn y Ganolfan Gwaith lleol.