Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

See Me | Dyma Fi - Dinistrio’r Delweddau

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 07/08/2012 am 09:51
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • Dyma Fi
  • Keith Towler

English version

Ymgyrch sy’n cael ei harwain gan Gomisiynydd Plant Cymru yw hon.
 

Hoodie. Yob. Chav.


Dyma rhai o’r labeli sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio plant a phobl ifanc ar draws Cymru bob dydd. Ry’ ni am newid y sefyllfa.
 

Bwriad See Me | Dyma Fi yw i ddinistrio’r delweddau negyddol a gwella agweddau tuag at blant a phobl ifanc Cymru.
 

Sut ry’ ni’n mynd i neud hyn?

·         Ry’ ni eisiau annog defnydd teg a chyfrifol o ddelweddau ac iaith i bortreadu plant a phobl ifanc

·         Ry’ ni eisiau rhoi’r sgiliau i blant a phobl ifanc i’w galluogi i rannu newyddion positif am eu hunain fel ein bod ni’n gallu dathlu eu llwyddiannau.

·         Ry’ ni angen eich cefnogaeth CHI!

 

Cymerwch olwg ar ein gwefan, darllenwch ein hastudiaethau achos, a chysylltwch i ddangos cefnogaeth ag i rannu eich straeon.
 

Mae hwn yn gyfle gwych i ni weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc Cymru.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50