NadoCLIC #23
Croeso i ffenestr #23 o'r Calendr Adfent NadoCLIC!
Mesurydd Nadolig!
"Braint yw cael dy eni'n Gymro, nid â llwy arian yn dy geg, ond â cherdd yn dy waed, a barddoniaeth yn dy enaid" – Wilfred Wilson
Dwi'n caru bod yn Gymraeg. Mae gennym fflêr, carisma, angerdd ac yn edrych ar ochr disglair bywyd yn gyffredinol. Mae'n beth da nad oes llawer o newyddion drwg yn y cyfryngau yn ddiweddar. Dwi'n ceisio peidio gadael iddo gael fi i lawr gan fy mod i'n berson gwydr hanner llawn.
Dwi'n fwy diolchgar am y Nadolig eleni gan ei fod wedi amnewid y straeon newyddion drwg yna am feddyliau o uchelwydd (mistletoe), anrhegion, ceirw, Siôn Corn, hetiau Nadolig a siocledi; er mai dim ond am ychydig fydd hyn.
Pan dwi eisiau topio fy mesurydd Nadolig i fyny, byddaf yn mynd tu allan ac yn gweld yr ysbryd Nadolig gwych sydd yma yng Nghymru.
Roeddwn eisiau dal hwn i bab gael gweld a rhannu rhai o'r golygfeydd anhygoel sydd yma yn fy nhref leol: Llanelli. Cefais fenthyg camera Dad (wel, gofynnais i Mam, a dwi ddim yn sicr os oedd o'n gwybod) ac es allan cwpl o benwythnosau yn ôl i dynnu lluniau. Dwi'n gobeithio bod chi'n mwynhau'r cynhesrwydd, yr hwyl a'r goleuadau hyfryd.
Hoffwn wybod beth sydd yn llenwi Mesurydd Nadolig pawb! Felly gad sylwad isod a gad i bawb wybod beth sydd yn gwneud i ti deimlo'n Nadoligaidd.
Nadolig Llawen!
Gwybodaeth – Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol






