Mae'r Frwydr Yn Diweddi Ddydd Gwener
Bandiau ifanc yn cystadlu am slotiau agoriadol mewn g?yl cerddoriaeth Cymraeg uchel ei bri hefyd tocynnau am ddim i’w ennill
BYB 2012
Bydd tri band ifanc Cymraeg heb eu harwyddo yn agor i fandiau fel Razorlight, Skindred a Kids in Glass Houses yr haf hwn, pan fydd enillwyr Brwydr y Bandiau Merthyr Rock / CLICarlein yn cael ei benderfynu yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Ebbw Vale Institute (EVi) ar Ddydd Gwener yr 17eg o Awst.
Bydd yr ennillwyr a dwy gr?p arall yn chwarae'r prif a'r ail llwyfan G?yl Merthyr Rock, sydd yn digwydd ar Ddydd Gwener y 31ain o Awst i Ddydd Sul yr 2ail o Fedi ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
BYB 2011
Gwelodd Brwydr blwyddyn ddiwethaf enillwyr Blaenau Gwent ‘Eric Unseen’ - a aeth i ffwrdd gyda gitār Schecter newydd sbon – yn agor y prif lwyfan ar Nos Sadwrn ar gyfer prif fand y noswaith ‘Ocean Colour Scene’, tra bod y ddau fand a ddaeth yn ail yn chwarae’r ail lwyfan. Gallai enillwyr y flwyddyn hon hefyd edrych ymlaen at Gitār Dean DBZ gwerth £900.
Meddai Scott Williams, 24 mlwydd oed o Eric Unseen: “Y cyngor fyddwn ni’n rhoi i gystadleuwyr y flwyddyn hon yw mwynhau’r profiad o chwarae gyda thalent leol arbennig. Mae hefyd yn llwyfan dda iawn i bobl newydd gael clywed eich cerddoriaeth chi, a does dim gwobr arall tebyg yng Nghymru.
"Roedd chwarae gyda rhai o’n harwyr cerddorol yn gyfle sydd byth yn digwydd, ac rydym yn ddiolchgar iawn ac yn lwcus i fod yn rhan o’r gystadleuaeth. Rydym mewn dyled i CLICarlein am ein cynnwys ni ym Mrwydr bandiau'r llynedd, ac rydym wedi lledaenu ein hadnabyddiaeth ar ōl agor Merthyr Rock.”
Yn Y Rownd Derfynol...
The Moonbirds
Os ydych yn hoff o riffs melan/roc gydag ochr fynci a chaneuon roc gydag alawon gafaelgar byddwch yn sicr o garu’r pedwar o Ferthyr ‘The Moon Birds’.
http://www.facebook.com/themoonbirds/
Man Of The Hour
Band pop-pync gydag awch ydy Man of the Hour, yn hanu o’r Cymoedd. Mae Man Of The Hour yn arbrofi gydag elfennau o bop-pync o ailymgnawdoliadau amrywiol y genre dros y blynyddoedd.
http://www.myspace.com/manofthehourband
Paint Happy
Mae’r caneuon wedi gyrru gan alawon cryf wrth aros yn unigryw gydag amrywiaeth o ddylanwadau. Mae Paint Happy yn eu camau cynnar a dal yn agored i lawer o arbrofi gyda gwahanol fathau ac arddulliau o gerddoriaeth.
http://soundcloud.com/paint-happy
Rich Kinsey
Wedi sefydlu ym mis Awst 2011, mae ‘Rich Kinsey and the Barroom Heroes’ yn fath newydd o fand acwstig/electro. Mae’r band wedi symud ymlaen ers hynny yn perfformio dros y Wlad i gyd yn agor i artistiaid mor amrywiol a ‘the Blackout’ a ‘Broken Vinyl Club’. Gyda lansiad EP ym mis Mawrth 2012 dechreuodd y band cyrraedd cynulleidfa newydd a sianeli radio newydd, gyda sesiynau radio a byw yn cael eu darlledu’n aml.
Gwefan
Charnel House
Band o bump sy’n Melodig/ Caled/ anghonfensiynol o Gaerdydd.
http://www.facebook.com/CharnelHouseOfficial
Ryan March
Canwr a chyfansoddwr o Ben-y-Bont ar Ogwr.
http://soundcloud.com/ryanmarch
Tone Damage
Mae Tone Damage yn pum cerddor yn canu caneuon Gwreiddiol ynghyd a rhai sy’n bodoli’n barod, maent yn cymryd dylanwadau oddi wrth wahanol fathau o gerddoriaeth, bandiau ac artistiaid, a gan bob aelod dylanwad gwahanol ond tebyg.
http://www.facebook.com/pages/Tone-Damage/148309848546348
BittersweetByDesign
Band roc pum person o Gaerdydd a Merthyr sydd newydd ddechrau recordio eu caneuon cyntaf. Enw eu sengl gyntaf yw "Anthem for the Underdog".
http://www.facebook.com/BittersweetByDesign/
Rownd Terfynol BYB & Merthyr Rock
Am mai'r pleidleisio wedi'u orffen, nid yw'r frwydr ar ben eto. Ewch i Ebbw Vale Institute DYDD GWENER YMA (17 Awst) i wylio'r 8 o'r bandiau gorau Cymru heb ei harwyddo yn ymladd am y goron BYB.
DRYSAU: 18:30
ACT GYNTAF: 19:15
MYNEDIAD: £3
Yna dilynwch yr enillwyr i'r G?yl Merthyr Rock, sydd yn digwydd ar Ddydd Gwener y 31ain o Awst i Ddydd Sul yr 2ail o Fedi ym Mharc Cyfarthfa, Merthyr Tudful.
Nodwch os gwelwch yn dda fod y digwyddiad hwn yn agor i bob oed. Bydd angen pobl sy'n 18+ a fydd eisiau prynu alcohol ddangos cerdyn adnabod ffotograffig er mwyn cael band arddwrn. Dim cerdyn adnabod = dim band arddwrn = dim alcohol.
Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Perfformio » Cerddoriaeth
Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Y Celfyddydau Perfformio » Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau








1 Comment – Postiwch sylw
SheriffJed
Rhoddwyd sylw 9 mis yn ôl - 21st August 2012 - 16:26pm
Erthygl arbennig o dda, mae'n hwyl i ddarllen!