Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

GwobrauCLIC 2012: Enwebwch Nawr

Postiwyd gan CLICawards o Caerffili - Cyhoeddwyd ar 03/09/2012 am 15:59
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant

  • CLICawards

***Mae'r enwebiadau'n cau nawr a fydd pleidleisio'n agor buan***

English Version

Beth fyddwch chi’n wneud ddydd Mawrth 30 Hydref 2012? Byddwn ni yng Nghastell Caerffili, yn gwisgo mygydau dwl ac yn dathlu. Pam? Oherwydd dyma ddyddiad GwobrauCLIC 2012.

Oes, mae gennym gastell y tro hwn.

Ond beth fyddai seremoni wobrwyo heb enwebiadau? Ni fyddai’n llawer o seremoni wobrwyo, felly mae arnom eisiau i chi gyfrannu pethau a chychwyn enwebu pethau.

Rydym wedi ystyried peth o’ch adborth wedi seremoni'r llynedd, ac rydym wedi ehangu’r categorïau i gyfanswm aruthrol o ddeuddeg sy’n cynnwys...

  • Yr Erthygl Sy’n Llwyddo Orau i Brocio’r Meddwl
  • Y Sylwebydd Gorau
  • Yr Erthygl Newyddiaduraeth Orau (Cyfweliad, newyddion, adroddiad ar rywbeth, wyddoch chi, newyddiaduraeth)
  • Yr Erthygl Ddoniolaf
  • Ffotograffydd/Artist y Flwyddyn (wyddoch chi, lluniau ac ati)
  • Yr Erthygl Fwyaf Defnyddiol (gwybodaeth, cyngor, hawliau, wyddoch chi, pethau defnyddiol)
  • Yr Adolygiad Gorau (ffilm, theatr, cerddoriaeth, gêm, chwaraeon, wyddoch chi, adolygiadau o bethau)
  • Y Cyfraniad Mwyaf
  • Newydd-ddyfodiad Gorau (wedi ymuno ers 23 Hydref 2011)
  • Yr Erthygl Greadigol orau (cerdd, stori fer, cyfres, wyddoch chi, pethau creadigol)
  • Fideo CLICwylio Gorau’r Flwyddyn (ffuglen, ffeithiol, beth bynnag cyn belled â’i fod yn fideo)
  • CLICiwr y Flwyddyn (Y gorau o blith holl gyfranwyr CLIC)

Caiff y rhan fwyaf o’r rhain eu hethol trwy bleidlais gyhoeddus, a chaiff rhai, fel  y Cyfraniad Mwyaf, eu hethol gan bwyllgor dirgel ac anatebol CLIC.  Fe gewch ragor o newyddion am y broses bleidleisio yn ddiweddarach pan fyddwn wedi cael trefn ar yr enwebiadau.

Felly sut allwch chi ymgeisio? Wel, caiff pob cyfraniad a gawn o hyn ymlaen ei ystyried ar gyfer gwobr berthnasol, ac mae gennych ychydig wythnosau i ysgrifennu eich campwaith (bydd enwebiadau'n cau ddydd Gwener 21 Medi 2012).

Os ydych eisoes wedi cyfrannu rhywbeth sy’n haeddu gwobr yn eich tyb chi, neu’n cofio darllen rhywbeth eithaf da, yna peidiwch â phoeni! Mae unrhyw beth sydd wedi’i gyhoeddi ar unrhyw un o wefannau Cydweithfa CLIC (yn cynnwys prif wefan CLIC, CLICwylio, BwstedConwy IfancDefaidFflint yr IfancIeuenctid Sir Gâr, Mwstwr Merthyr, NPT Shake, Shouttawe, Swoosh, TheSprout, TOWIP, WicidWrecsam IfancYoung Newport a Youth4U) ers 23 Hydref 2011 yn gymwys.

I enwebu rhywbeth, gallwch...

  • E-bostio’r ddolen/URL a chategori eich enwebiad at sam@cliconline.org.uk neu 
  • Trydarwch y ddolen/URL at @CLIConline neu @CLICarlein â’r hashtag #CLICawards neu #GwobrauCLIC neu
  • Gadewch sylwadau gyda’r ddolen/URL ar y ddolen i’r erthygl hon ar dudalen CLIC News / Newyddion ar Facebook

Gallwch ddilyn yr un drefn i enwebu CLICiwr y Flwyddyn, a gallwch, fe allwch enwebu eich gwaith eich hun am unrhyw wobr. Os byddwch yn enwebu eich gwaith eich hun, cofiwch gynnwys eich maint crys T (rydym yn gwneud hwdis a chrysau T eto eleni, a deallwn ein bod wedi dyfalu'n wael iawn y llynedd).

Bydd yr enwebiadau’n cau ddydd Gwener 21 Medi 2012, a bydd y pleidleisio’n cychwyn tua wythnos wedi hynny.

Dyna’r cyfan am y tro, ond os wyf wedi anghofio rhywbeth, neu os ydych yn dymuno gofyn cwestiwn, gallwch adael neges yn yr adran sylwadau isod, ac fe wnaf eich ateb cyn gynted ag y gallaf. Un peth arall: cynhelir y seremoni y diwrnod cyn Nos Galan Gaeaf, felly allwch chi ddyfalu beth fydd y cod gwisg? Byddwn hefyd yn rhedeg cystadleuaeth ddoniau i ganfod perfformwyr ar y noson, mae rhagor o fanylion i ddilyn, ond SerenCLIC fydd enw’r gystadleuaeth ac fe fydd yn wych...a bydd y sain yn well.

Yn y cyfamser, meddyliwch, ysgrifennwch, tynnwch luniau neu gwnewch fideos, ac ymgyffrowch yn barod ar gyfer un o nosweithiau gorau'r flwyddyn, GwobrauCLIC 2012.

Erthyglau Cysylltiedig: 

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50