Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwirfoddoli Yn Nwyrain Ewrop

Postiwyd gan worldatplay o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 25/07/2012 am 12:17
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Chwaraeon a Hamdden, Teithio, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • Blowball

In English

Mae World at Play yn elusen s'yn rhedeg teithiau bob blwyddyn i Ddwyrain Ewrop i redeg gweithgareddau chwaraeon a chwarae gyda plant sy'n gwynebu anfantais ac oedolion gyda anabledd.

Mae'r taith nesaf yn digwydd yn yr Hydref ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio gyda ein partneriaid i redeg gweithgareddau gyda cymunedau yng Nghroatia, Bosnia, Serbia, Kosovo a Bwlgaria rhwng Medi 23ain a Tachwedd 24ain.

Yn ogystal â chreu ffrindiau gyda'r gwirfoddolwyr eraill, mae'n gyfle i ddatblygu eich sgiliau arwain, cael profiad ymarferol yn y maes datblygiad rhyngwladol a dod i adnabod y gwledydd hyn oddi ar y llwybr twristiaidd.

Mae angen i wirfoddolwyr fod o leiaf 18 mlwydd oed a does dim angen profiad chwareaeon / chwarae i ymuno â'r tîm. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n frwdfrydig, hyblyg i weithiau a byw mewn amryw o sefyllfaoedd, ac yn fodlon codi £1,500 er mwyn talu am gostau bwyd / teithio / llety yn ystod y daith.

Am fwy o wybodaeth, gwelwch ein gwefan http://www.worldatplay.org.uk/cymraeg neu cysylltwch â Sion Lanini ar sion@worldatplay.org.uk

Newyddion » Categorïau » Teithio

Newyddion » Categorïau » Gwirfoddoli

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Gwirfoddoli

Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y Du a Chymru » Gweithio » Gweithio Gwirfoddoli

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50