Fy Stori Bwlio
Helo! Maria ydw i. Rydw i’n 19 oed, ac yn fyfyriwr Cyfrifiadureg Cyfryngau Creadigol ym Mhrifysgol Glynd?r. Rwy’n byw gartref hefo Mam, dyweddi Mam, tri brawd, a fy nghariad. Mae gennyf gi o’r enw Penny, sy’n ddaeargi tua saith oed, a chath o’r enw Dizzy.
Cefais fy mwlio o oedran ifanc iawn. Rwy’n cofio bod yn y feithrinfa, heb deulu o fy nghwmpas, dim ond plant o’r un oedran. Fi oedd yr un tawel yn y gornel, yr un oedd ddim yn hoffi codi llais. Oherwydd hynny mi ddechreuodd y plant eraill bigo arnaf i, gan fy maglu a fy nhrin fel rhywbeth diwerth.
Daeth yr amser i mi fynd i’r ysgol, a dyma fy mhrofiad ysgol gynradd waethaf wrth i fachgen fygwth gwneud fy mywyd yn “uffern” oeddwn yn “gwneud” pethau iddo. Doeddwn i ond yn wyth neu naw oed ar y pryd, yr un oed â fo. Gorfod dioddef y fath beth a finnau mor ifanc oedd y profiad mwyaf erchyll erioed!
Roeddwn i’n meddwl y byddai pethau’n gwella ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Ond roeddwn yn gwbl anghywir. Roedd yr un bachgen yn parhau i fy mhoenydio ym mlynyddoedd 5 a 6 ond roedd yr un peth yn wir am fwy neu lai’r ysgol gyfan. Mi ledodd sïon amdanaf, fod gennyf “germs” a daeth neb yn agos ataf. Wrth imi gerdded i mewn i’r ystafell ddosbarth, y croeso gefais oedd edrychiadau, syllu a chwerthin. Cefais fy ngalw’n enwau hyll, ac roedd y bechgyn yn fy mhoenydio yn ystod y gwersi yn dragywydd tan fy ngorfodi i droi i’w hwynebu nhw. Gwastraff amser wrth gwrs; roeddwn yn rhy swil ac ansicr i ddweud dim.
Un diwrnod, ar y buarth, taflodd ddau fachgen raff sgipio o gwmpas fy ngwddf mor dyn fel fy mod yn tagu. Daeth y ddynes ginio draw, a fy nghymryd at y brifathrawes. Mi welodd hi’r ôl coch am fy ngwddf, ond ddaru hi ddim rhoi cosb wirioneddol iddyn nhw.
Y dydd Llun nesaf, roeddwn yn fy ngwely. Doeddwn i ddim eisiau codi i wynebu’r dydd. Roeddwn yn llefain pob nos, ond heb ddweud dim wrth neb erioed ers y cychwyn cyntaf yn y feithrinfa, hyd yn oed fy rhieni!
Ddaru fi gloi fy hun yn yr ystafell ymolchi. Mi glywodd Mam fi’n wylo, a gofyn beth oedd o’i le. Doeddwn i ddim eisiau dweud, ac mi arhosais yn dawel. Doeddwn i ddim eisiau enw am hel clecs ar ben popeth arall.
Ond yn y diwedd, ar ôl awr o ddistawrwydd llwyr, mi ddywedais bopeth wrth Mam trwy fy nagrau. Mi ffoniodd hi’r ysgol ar unwaith ac esbonio’r cyfan. Cefais wythnos o saib, ac mi alwyd y bwlis i mewn am ddarlith. Cafodd y gwaethaf ohonyn nhw orchymyn i ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad – ond dim ond un wnaeth. Ha ha ha. A hyd heddiw, does neb yn gwybod beth wnaeth y bachgen yna imi yn y t? bach...
Rydw i wedi tyfu’n unigolyn swil a thawedog, ond mae cyfeillion agos wedi sylwi fy mod wedi blaguro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae gennyf hyder newydd, ac rydw i wedi medru cyflawni llawer o bethau na fyddaf wedi medru eu hwynebu cynt.
Sefydliadau » Bullies Out / Bwlïod Allan
Gwybodaeth » Addysg » Yn Yr Ysgol 11-16 - Cyflwyniad » Bwlio
LLUN: wooleywonderworks







