Eich Dweud Ar Wasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gyfranogaeth Cymru ddod â phanel o bobl ifanc ynghyd i ddweud eu dweud ar y ffordd y gallai Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod yn well. Panel Dinasyddion Plant a Phobl Ifanc ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yw eich cyfle chi i ddweud eich dweud - gall eich syniadau chi helpu i wneud i wasanaethau’r wlad weithio’n well!
Rydym yn chwilio am bobl sydd yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd yn gofalu am rywun sy’n cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu sydd gyda diddordeb yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych os hoffech gymryd rhan. Hoffem glywed yn arbennig gan bobl:
- Anabl
- Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol
- O gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig
- Sydd â ffydd neu gred grefyddol
- Ifanc a phlant
- H?n
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Rhannu’ch barn ar y Gwasanaethau Cymdeithasol
- Awgrymu syniadau a dweud ym mha ffordd y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn well ledled Cymru
- Mynd i dri chyfarfod panel yn ystod y flwyddyn
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant yng nghyfarfodydd y panel
- Cadw’r hyn a ddywed aelodau eraill o’r panel amdanynt eu hunain yn breifat
Bydd y Panel Plant a Phobl Ifanc yn cwrdd am 6pm – 8.30pm ar:
16 Hydref yng Ngogledd Cymru
24 Hydref yn Ne Orllewin Cymru
25 Hydref yn Ne Ddwyrain Cymru
Byddem yn rhoi gwybod i chi ble mae’r cyfarfodydd hyn cyn gynted ag y bo modd. Byddem yn talu’ch treuliau fel y gallwch gymryd rhan. Bydd bwyd yn cael ei ddarparu.
Ffoniwch 029 2043 1757 neu e-bostiwch participationcymru@wcva.org.uk ar gyfer pecyn gais, neu fel arall ymwelwch â www.participationcymru.org.uk/home/citizen-panels-for-social-services-in-wales?diablo.lang=cym.
Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Cyfranogaeth
Sefydliadau » Participation Cymru
Gwybodaeth » Y Gyfraith, Hawliau a Dinasyddiaeth » Hawliau a Chyfrifoldebau » Hawliau Plant
IMAGE: Rego - d4u.hu







