Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Eich Atgofion Am Blentyndod Yng Nghymru

Postiwyd gan loulouoneill o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 22/10/2012 am 12:57
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Hanes

  • Daffodils

English Version

Mae Plant Yng Nghymru wrth eu bodd yn cyhoeddi y byddant yn dathlu 20fed Pen-blwydd yn 2013.

Fel rhan o'r dathliadau byddwn yn cyhoeddi casgliad o straeon byrion, gan blant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd, am eu hatgofion yng Nghymru. Does dim rhaid i chi fod wedi eich geni yng Nghymru, cyhyd â bod gennych rai cofion. Felly, beth am rannu eich atgofion â ni?

Gallwch anfon eich stori yn Gymraeg neu Saesneg, a chynnwys llun os dymunwch. Ni ddylai eich stori fod yn fwy na 500 gair, a gallwn eu cadw yn ddienw. Byddwn yn defnyddio rhai hanesion yn ddiweddarach i gynhyrchu cyfrol ddathlu.

Does dim dyddiad cau, ond byddwn yn cynnal parti enfawr ar Ddydd Gwener, 10 Fai 2013 yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd lle byddwn yn arddangos rhai o'r storiau. Os hoffech ymuno a ni yn y parti, cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.

Felly, edrychwn ymlaen at glywed wrthoch!

Anfonwch eich stori os gwelwch yn dda at:
Louise O'Neill, Cydlynydd Aelodaeth a Marchnata
Ebost: membership@childreninwales.org.uk

(Mae Plant yng Nghymru yn cadw'r hawl i ddewis storïau i'w cyhoeddi, ac ni fyddwn yn gallu cyhoeddi unrhyw hanesion nad ydynt yn parchu nodau a gwerthoedd ein sefydliad)

Newyddion » Categorïau » Ysgrifennu Creadigol

Llun: macieklew

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50