Cystadleuaeth Clawr CLICZine #7!
Os wyt ti'n hoff o arlunio yna dyma gyfle i ddangos dy waith.
Bydd dy waith yn cael ei arddangos ar gannoedd a miloedd o gylchgronau. Rydym eisiau i ti ddylunio'r clawr CLICzine nesaf. Yr unig beth sydd yn rhaid i ti wneud ydy bod yn greadigol.
Mae'n gyfle gwych i gael amlygu dy waith: yn ogystal â chael dy waith ar y clawr blaen, byddwn hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda thi ar y wefan ac yn y zine (a rhoi bag nwyddau CLIC i ti).
Beth ydy'r CLICzine?
CLICzine ydy chwaer fach argraffedig CLICarlein ac mae'n cael ei ddosbarthu dros Gymru gyfan/
Felly beth ydy'r gofynion?
Bydda mor greadigol â phosib. Rydym eisiau dy waith gorau! Gall fod yn unrhyw beth: ffotograffiaeth, darlun, peintiad, gludwaith. Beth bynnag, rydym ni eisiau ei weld.
Maint
Cofia, nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Ond ddim yn rhy fach chwaith. Meddylia am y clawr fel un A4.
Beth i ddefnyddio
Mae nifer o raglenni dylunio ar gael i ti ddefnyddio am ddim: mae'n werth edrych ar Pixlr.com neu GIMP. Ond, paid teimlo fel bod RHAID i ti greu celf ddigidol. Gallet hefyd yrru'r gwaith ei hun i ni (os wyt ti eisiau ef yn ôl, cofia gynnwys amlen gyda dy gyfeiriad arno.)
Beth i gofio
Fel y gweli di gyda'r mwyafrif o gylchgronau, mae yna wybodaeth yn gorfod mynd ar y blaen. Dyw CLICzine ddim gwahanol. Felly cofia ble mae dy ffocws di wrth ddylunio. Isod mae diagram defnyddiol i arwain ti.
DYDDIAD CAU
Bydd rhaid cael cyflwyniadau i mewn erbyn dydd Gwener 17eg Awst.
Bydd yr ymgeiswyr yn cael ei feirniadu gan ein panel arlunio enwog (sef aelodau o'r tîm golygyddol CLIC a stiwdio dylunio Burning Red) a byddet yn cael gwybod erbyn dydd Mawrth 28 Chwefror neu cynt.
Os oes gen ti unrhyw gwestiwn arall, paid bod ofn… postia nhw isod neu gyrra e-bost i ni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Nid fydd angen dau ddyluniad ar gyfer y clawr: mae'r fersiwn Cymraeg a Saesneg yr un peth.
Os oes gen ti ddau ddyluniad a ti methu dewis pa un, yna gyrra'r ddau! Nid oes cyfyngiad faint gei di yrru i mewn.
Gyrra'r ymgeision i: competition@cliconline.co.uk
Os wyt ti eisiau gyrru'r gwaith ei hun i mewn, gyrra i:
Cystadleuaeth Clawr
ProMo-Cymru
Uned 13, Gweithdai Royal Stuart
Adelaide Place,
Caerdydd
CF10 5BR
Am beth wyt ti'n disgwyl? Gwna ef!







