Ceisio Bod Yn Ferch Sy'n Hapchwarae
Rwy'n mynd i ysgol i ferched ac erioed wedi bod yn ferch bydd pobl yn ystyried yn 'nodweddiadol'.
Does dim ots gen i sut ydw i'n edrych nac ychwaith yn prynu dillad ffansi yn aml. Roeddwn i bob amser wedi teimlo'n fwy cartrefol gyda'r bechgyn yn fy ysgol gynradd i. Sut bynnag pan symudais i i'r ysgol uwchradd i ferched roeddwn i'n gwybod buaswn i'n cael trafferth yn gwneud ffrindiau newydd, a dim ond un ffrind oedd gen i yn fy nosbarth i. Roeddwn i'n iawn gyda fy un ffrind ond sylweddolon ni bod problemau gennym pan oedd rhaid i ni wneud gwaith gr?p ac roeddem ni wastad mewn gr?p gyda merch arall nad oedd yr un ohonom yn hoffi'n fawr iawn.
Ym mhen hir a hwyr gwnaethon ni ffrindiau gyda gr?p arall o ferched, ond roeddem ni wastad yn cael ein disgrifio fel y "nerds" gan y gweddill. Roeddwn i'n hollol iawn gyda'r llysenw oherwydd, fel dwedais i, doedd dim ots mawr gyda fi yngl?n â fy nelwedd. Rydw i ar gr?p arall wedi cael problemau o'r cychwyn, a doedden ni ddim i gyd yn ffrindiau ar ôl yr wythnos gyntaf gyda'n gilydd. Roeddwn ni'n ffrindiau gyda dau berson rhan fwyaf, yr un arhosais i gydag oeddwn i'n nabod ers yr ysgol gynradd a merch arall oedd yn debyg iawn i fi fy hun. Roeddwn ni'r un taldra (heblaw am y ffaith roedd hi bach yn dalach na fi er roedd y ddwy ohonom yn fyr), roeddem ni bron yn rhannu pen-blwydd, ond y peth mwyaf oedd, ni oedd yr unig ddau berson yn ein blwyddyn ni oedd yn mwynhau "hapchwarae".
Yn ddiweddar des i ar draws hen ficroffon fy mrawd oedd e arfer defnyddio am yr 'X-Box Live'. Gofynnais i iddo os allai chwarae ar-lein ac meddai ie, felly llwythais i'r gêm gan blygio'r microffon i mewn. Roeddwn i'n disgwyl i bobl synnu yn gweld merch yn chwarae gem fideo a bod yn dda hefyd, sut bynnag ges i ymateb gwahanol. Ymunais i mewn gem a dweud "Helo" i'r bobl roeddwn i'n chwarae gyda, dywedon nhw rywbeth nad oeddwn i allu clywed yn iawn, yn gysylltiedig ar ffaith fy mod i'n ferch. Cyn i mi allu ymateb cefais fy nhaflu allan o'r gêm.
Gallwn i wedi mynd ymlaen i wneud rhywbeth gwahanol ond gwnes i ymgais arall, ac ychydig yn fwy llwyddiannus ond si?r o fod achos roedd problemau gyda'r microffon, felly doedd neb gallu clywed i' n iawn. Ers hynny rwy ddim wedi chwarae ar-lein gyda dieithriaid ac ond yn siarad gyda fy ffrindiau. Wedyn sylweddolais i nad oedd y gweddill yn mynd i drin i'n normal tra bod i'n defnyddio'r microffon. Pan na allai pobl bod yn fwy derbyniol. Efallai nad ydyw'n helpu bod gen i ficroffon rhad sy'n gwneud i fy llais i swnio'n uwch ac fel plentyn, er mewn bywyd go iawn mae gen i lais eithaf dwfn ar gyfer rhywun fy rhyw a’n hoedran i.
DELWEDD: BitchBuzz








