Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Angen Gwneuthurwyr Ffilm!

Postiwyd gan Bambi34 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 16/07/2012 am 15:14
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Yn Gymraeg

English Version

Mae'n mynd yn anoddach ac anoddach i gael swydd y dyddiau hyn, felly bydd unrhyw lwybr i yrfa newydd yn cael ei groesawu, yn enwedig yn y sector celfyddydau creadigol. Dyna pam dylech agor eich breichiau a chofleidio'r cyfle gwych yma.

Mae'r 'Hurtwood Prize for Young Filmmakers' yn wobr newydd sydd wedi ei sefydlu eleni, ond y gobaith ydyw y bydd yn rhedeg pob blwyddyn. Maent yn cynnig cyfle i unrhyw un rhwng 16 a 21 mlwydd oed i ffilmio fideo cerddoriaeth swyddogol i un o bedwar band; The Maccabees, Spector, Lawson neu Totally Enormous Extinct Dinosaurs (T.E.E.D).

I gyd sydd angen i chi wneud yw anfon eich fideo i mewn, a bydd panel beirniadu o arbenigwyr y diwydiant yn dewis pwy fydd yn y deg olaf. Bydd y deg olaf yn cael eu gwahodd i gwrs gynhyrchu ffilm deuddydd dwys yn Hurtwood House lle fydd yna gyfres o heriau i gymryd rhan ynddynt.

Ar gyfer eich fideo, dylech ddewis un o'r pedwar band, yn ddelfrydol y band sy'n eich ysbrydoli'r mwyaf.

Nesaf, bydd angen cael gafael ar gamera. Nid oes angen iddi fod yn ddrud neu'n ffansi; bydd camera ar ffon symudol yn ddigon dda [nodyn i'r is-olygydd: Mae'r gan y mwyafrif o grwpiau golygu camerâu fideo, siaradwch a'ch golygydd lleol os oes angen benthyg un - os nad ydych yn sicr pwy yw eich golygydd lleol, gadewch neges isod]

Ffilmiwch eich fideo a'i rhoi at ei gilydd, yna cyflwynwch eich fideo trwy'r sianel YouTube.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau ar y sianel YouTube yngl?n â ffilmio, gwallt a cholur a golygu, a hefyd i lwytho'r telerau ac amodau (ffeil .pdf) a byddai'n annog i bobl gwylio'r sesiynau tiwtorial. Byddent yn eich helpu. Gellir dod i hyd i unrhyw ffurflen mynediad yna hefyd.

Y dyddiad cau am gyflwyno eich gwaith yw'r 6ed Awst, felly ewch allan a ffilmio! Pob lwc a chofiwch gael hwyl.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50